Croeso i @MapioCymru
Mae mapio Cymru yn fenter i'w gwneud hi'n haws i ddefnyddio data mapio yn y Gymraeg ac i annog mwy o bobl yng Nghymru i greu mapiau.
Efallai y byddwch yn ein hadnabod ni o'n map iaith Gymraeg openstreetmap.cymru. Yn ystod y flwyddyn 2020-21, cefnogir y prosiect hwn yn garedig gan Lywodraeth Cymru.
Buasem ni wrth ein boddau pe baech yn gallu ein galluogi i sicrhau bod y drafodaeth gyffrous ynghylch enwau lleoedd Cymru yn cael ei chefnogi gan y dechnoleg rydym yn awyddus i'w datblygu:
bydd eich cymorth yn ein helpu i ddatblygu mapiau a mapio gwasanaethau Cymraeg y gellir eu defnyddio mewn addysg, hamdden, gwaith, treftadaeth a'r gymuned.
Cefnogwr
Efallai y byddwch chi yn ein hadnabod ni yn barod gan ein bod ni yn gyfrifol am fap iaith Gymraeg openstreetmap.cymru ; a gefnogir yn garedig gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2020-21.
Buaswn ni wrth ein bodd petaech chi’n gallu ein cefnogi ni hefyd.
Bydd eich cymorth yn ein helpu i ddatblygu mapiau Cymraeg a gwasanaethau y gellir eu defnyddio mewn dysgu, hamdden, gwaith, treftadaeth a’r gymuned.
Ein cefnogwyr ni bydd y cyntaf i wybod am ddatblygiadau newydd y prosiect a’r bobl gyntaf i ni holi i ble ddylai'r prosiect fynd. Byddwch yn siŵr o gael ymdeimlad o foddhad a bodlonrwydd o gefnogi, a bod yn rhan o’r gymuned mapio Cymraeg.
Pwy ydym ni?
Y tîm craidd yw :
Sut y bydd eich arian yn cael ei fuddsoddi?
Partneriaeth rhwng Service Works Cyf a’r cwmni buddiannau cymunedol Data Orchard yw Mapio Cymru. Pe baech yn ein cefnogi, bydd y taliadau yn cael eu cadw gan CBC Data Orchard a’u neilltuo i'r prosiect hwn. Yn gyntaf, rydym am godi digon o arian i dalu am y gweinydd mapio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Pe gawn ni fwy o arian na hynny yna byddwn ni yn ei ddyrannu ar gyfer gwaith prosiect.
Ein cefnogwyr fydd y bobl gyntaf y byddwn yn eu holi ynglŷn â chwmpas ein gwaith prosiect.
Diolch yn fawr
Welcome to @MapioCymru
Supporters
Who are we?
Supporters
Thank you!
Recent supporters